Os nad ydych chi eisiau dod i'r llys

Os ydych chi wedi cael eich galw i'r llys, ond dydych chi ddim eisiau dod, mae modd i chi ofyn am gael eich esgusodi. 

Cais i gael eich esgusodi o'r llys:

Cysylltwch â'r swyddfa, naill drwy lythyr neu e-bost, sy'n nodi'ch rhesymau.  Bydd eisiau i chi fod o ddifrif ynglŷn â phethau, gan fod y Crwner yn disgwyl i bobl flaenoriaethu presenoldeb yn y llys yn anad dim byd arall.  Os bydd gan gydweithiwr neu aelod arall o'r teulu wybodaeth berthnasol, ac mae e/hi yn fodlon dod yn eich lle, mae croeso cynnig ei (h)enw.

Os ydych chi'n gofyn am gael eich esgusodi ar sail feddygol, bydd eisiau i chi gyflwyno llythyr oddi wrth eich meddyg, sy'n nodi'n benodol nad ydych chi'n gallu/'ffit' i ddod i'r llys.  Mae hyn yn wahanol i nodyn salwch gwaith arferol; efallai bydd unigolyn yn gallu dod i'r llys hyd yn oed os nad ydyn nhw'n gallu ymgymryd â'u dyletswyddau gwaith.

Bydd y Crwner yn ystyried eich cais ac yn dod i benderfyniad.  Byddwn ni'n eich hysbysu chi am y canlyniad ar unwaith, dros y ffôn fel arfer.

Pryderon am fynychu?

Mae pryderon gyda rhai pobl am ddod i'r llys.  Mae modd inni roi cymorth i leddfu'r rhain.  Os ydych chi'n poeni am yr effaith emosiynol o ddod i'r llys, mae pob croeso siarad â ni.  Efallai bydd modd inni dawelu'ch meddwl am yr hyn a fydd yn digwydd.  Os ydych chi'n poeni am ddod i gysylltiad ag aelod arall o'r teulu neu dyst, rhowch wybod i ni.  Mae gweithdrefn gyda ni i'ch cadw chi ar wahân ac yn ddiogel.

Rydyn ni'n argymell y dylai tystion o deuluoedd yn arbennig bwyllo'n ofalus cyn gofyn am gael eu hesgusodi.  Mae rhai teuluoedd wedi dweud wrthon ni ar ôl i'r gwrandawiad ddod i ben eu bod nhw'n edifarhau am beidio â dod i achub ar y cyfle i ofyn cwestiynau.  Eto, croeso ichi gael sgwrs â ni fel bydd modd i chi ddod i benderfyniad cytbwys.

Os bydd y Crwner o'r farn na chewch chi mo'ch esgusodi, mae rhaid i chi ddod i'r llys.  Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych chi wedi derbyn gwŷs ffurfiol, gan fod modd i'r Crwner ofyn i'r Heddlu i'ch dod â chi i'r llys, os dydych chi ddim yn dod.