Am faint bydd y gwrandawiad yn para?

Yn eich ffurflen wŷs, bydd dyddiad dod i ben bras ar gyfer eich gwasanaeth.  Bydd y dyddiad yma'n seiliedig ar yr hyn rydyn ni'n ei wybod am yr achos eisoes.  Allwn ni ddim rhagweld popeth a fydd yn digwydd pan fydd y dystiolaeth yn cael ei chlywed.  Efallai bydd y cwêst ychydig yn fyrrach / hirach na'r disgwyl.  Bydd angen i chi aros hyd nes iddo ddod i ben.

Gan amlaf, mae cyfnodau gwasanaeth yn para wythnos neu ddwy. Efallai bydd hynny'n cynnwys un cwêst hir neu sawl cwêst byr. 

Ambell waith, rydyn ni'n gwybod ymlaen llaw y bydd cwêst cymhleth iawn yn para am sawl wythnos.  Byddwn ni'n gweithio gyda rheithwyr yn ystod y broses ddethol fel ein bod ni'n dewis pobl sy'n gallu dod i ben â hyn.