Os ydy cwêst wedi'i hagor ynglŷn â marwolaeth eich perthynas

Bydd y Crwner yn agor cwêst yn dilyn tua 10% (un o bob 10) o farwolaethau. I'r rhan fwyaf o deuluoedd, dyma fydd y tro cyntaf iddyn nhw ymwneud â'r broses.

Yn yr adran yma, byddwn ni'n esbonio pam mae cwêst wedi'i hagor/ei chychwyn, beth sydd ynglŷn â hi, a tua faint bydd hi'n ei chymryd. Gobeithio bydd hyn o gymorth i chi gael tawelwch meddwl am unrhyw bryderon neu ansicrwydd sydd gyda chi.

Byddwn ni'n gwneud popeth y gallwn ni i sicrhau bod y broses yn rhedeg yn llyfn, a bod atebion clir gyda chi erbyn y diwedd ynglŷn â'r hyn ddigwyddodd i'ch anwylyd.

Os ydych chi eisiau siarad â'r swyddog sy'n delio ag achos eich perthynas, ffoniwch ni ar  01443 281101 rhwng 8am a 4pm neu anfon e-bost at Crwner.Gweinyddu@rctcbc.gov.uk.