Cael copi o adroddiad yr archwiliad post mortem

Bydd yr Uwch Grwner ar gyfer Canol De Cymru yn caniatáu i deuluoedd gael copi o'r adroddiad.   

Hoffech chi gael copi? Gwnewch eich cais yn ysgrifenedig, naill ai drwy'r post neu ebost.  Mae hyn yn bwysig oherwydd bod angen inni gael sêl bendith a llofnod y Crwner ar gyfer pob cais.

Cadwch mewn cof bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth feddygol fanwl iawn, ac mae'n ddeunydd darllen annifyr i lawer o bobl. 

Mae'r Patholegydd yn dweud wrthon ni am achosion y farwolaeth ar unwaith, ond dyw'r adroddiad llawn ddim ar gael fel arfer tan 2 wythnos ar ôl yr archwiliad.  Os ydy'r Patholegydd wedi cymryd samplau ar gyfer histoleg (gwaith microsgop) neu wenwyneg (dadansoddi gwaed/troeth), efallai bydd yr adroddiad terfynol yn cymryd llawer yn hirach.