Os bydd y Crwner yn agor cwêst

Os bydd yr archwiliad post mortem yn dangos bod achos y farwolaeth yn annaturiol, neu os nad oes modd pennu achos y farwolaeth ar ddiwedd yr archwiliad, bydd y Crwner yn cychwyn ymchwiliad neu'n agor cwêst.  Bydd raid iddo fe wneud hynny os ydy'r unigolyn wedi marw dan warchodaeth/yn y ddalfa neu, fel arall, yng ngofal y Wlad.

Beth yw cwêst?

Ymchwiliad barnwrol cyhoeddus yw e sy'n rhoi sylw i "pwy" oedd yr unigolyn a fu farw, "pryd" a "ble" bu farw, achos (rheswm) meddygol am ei farwolaeth a "sut" bu farw'r unigolyn.  Fel arfer, y cwestiwn 'sut' sy'n mynd dan sylw'r gwêst.  Mae llawer o wybodaeth yn yr adran ynglŷn â chwestau.

Sut bydd hi'n effeithio ar gynlluniau angladd?

Os bydd y Crwner wedi penderfynu cychwyn ymchwiliad neu agor cwêst, byddwn ni'n sôn wrthoch chi pan fyddwn ni'n ffonio gyda chanlyniad y post mortem.  Bydd yn newid pethau mewn dwy ffordd o'r cychwyn.

Erbyn hyn, bydd angen i chi wybod pwy yw'ch trefnydd angladdau, ac a ydych chi'n cael gwasanaeth claddu neu amlosgi.  Mae rhaid cael hyn er mwyn rhyddhau corff eich perthynas i ofal y Trefnydd Angladdau sydd wedi'i enwi.  Bydd y gwaith papur yn wahanol ar gyfer claddu neu amlosgi.  Fyddwn ni ddim yn gallu rhyddhau'r corff nes ein bod ni wedi cael yr wybodaeth yma.  Croeso ichi gymryd cwpl o ddyddiau i ddod i benderfyniad.

Yn ail, fyddwch chi ddim yn cael cofrestru'r farwolaeth yn Swyddfa'r Cofrestrydd nes bod yr ymchwiliad wedi'i gwblhau neu fod y gwrandawiad wedi'i gynnal.  Yn y cyfamser, byddwn ni'n anfon "tystysgrifau marwolaeth dros dro".  Mae'r rhain yn edrych fel tystysgrifau marwolaeth arferol, ac yn gweithredu yn yr un modd, ond bod achos y farwolaeth heb ei gadarnhau.  Mae modd eu defnyddio ar gyfer cau cyfrifon banc ac unrhyw beth arall a wnelo ag ystad yr unigolyn sydd wedi marw.  Os oes angen rhagor o gopïau arnoch chi unrhyw bryd, rhowch wybod.  Weithiau fydd cwmnïau yswiriant ddim yn derbyn tystysgrifau dros dro – ond dyna'r unig sefydliadau.   Byddan nhw'n ysgrifennu'n uniongyrchol aton ni i gael ateb i'w cwestiynau.

 

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Unwaith i gorff eich perthynas gael ei adnabod yn ffurfiol a'i ryddhau, fyddwn ni ddim fel arfer yn eich trafferthu chi am y mis neu ddau nesaf.  Rydyn ni'n defnyddio'r amser yma i gasglu gwybodaeth y mae'r Crwner wedi gofyn amdani hi oddi wrth feddygon, tystion, swyddogion yr Heddlu neu bwy bynnag a allai fod yn briodol yn achos eich perthynas.  Efallai bydd Swyddog y Crwner yn cysylltu ag aelod o'r teulu i ofyn am yr hyn sy'n cael ei alw yn "ddatganiad hanes blaenorol".  Mae hyn yn cynnwys cefndir personol eich perthynas, ac unrhyw wybodaeth arall sydd o bosib gyda chi ynglŷn â'i iechyd neu amgylchiadau ynghylch ei farw.

Os nad oes modd canfod achos y farwolaeth yn yr archwiliad post mortem cyntaf, efallai bydd modd i'r Patholegydd ei ganfod trwy histoleg (gwaith microsgop) neu wenwyneg (dadansoddi gwaed/troeth).  Unwaith i'r canlyniadau gyrraedd, fe fyddwn ni'n rhoi gwybod i chi.

Unwaith bod yr holl wybodaeth gyda chi, byddwn ni'n cysylltu â chi eto ynglŷn â threfnu gwrandawiad mewn llys, os oes angen hynny.  Peidiwch â phoeni am hyn yn y lle cyntaf – rydyn ni'n gwybod bod llawer o bethau i'w rheoli, yn ymarferol ac yn emosiynol.  Bydd modd i ni siarad am y rhan yma o'r broses â chi yn nes at yr amser.