Pa farwolaethau y mae rhaid hysbysu'r Crwner yn eu cylch?

Dyw tua hanner o'r holl farwolaethau ddim yn mynd at sylw'r Crwner o gwbl, gan fod hawl gyda meddyg i roi Tystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth. Dyma ddogfen sy'n caniatáu cofrestru'r farwolaeth. Mae rheolau llym mewn grym sy'n pennu pryd caiff meddyg wneud hyn. Rhaid iddyn nhw wybod pa salwch sydd wedi achosi marwolaeth y claf, ac mae rhaid i'r meddyg fod wedi gweld y claf a'i drin am y salwch hwnnw cyn pen 28 diwrnod cyn iddo farw. Mae'n ofynnol i'r meddyg gyfeirio at y Crwner os nad oes modd iddo ardystio ei fod naill ai wedi gweld yr ymadawedig cyn pen 28 diwrnod cyn iddo farw neu ar ôl iddo farw. Mae'r rheolau yma er mwyn diogelu cleifion a sicrhau bod y broses o roi gwybod am farwolaeth a chofrestru yn gywir.

Os nad oes meddyg ar gael sy'n cael cyflwyno'r dystysgrif yma, rhaid rhoi gwybod am y farwolaeth i'r Crwner.

Mae sawl math arall o farwolaeth y mae rhaid rhoi gwybod amdanyn nhw:

  • Marwolaeth pob plentyn ac unigolyn ifanc dan 18 oed, hyd yn oed os achosion naturiol yw'r rheswm.  Mae hyn at ddibenion diogelu.
  • Marwolaethau a allai fod yn gysylltiedig â thriniaeth feddygol, llawdriniaeth neu anesthetig
  • Marwolaethau sydd efallai'n gysylltiedig â damwain, waeth pa mor hir yn ôl oedd hi
  • Os oes posibilrwydd bod y person wedi gwneud ei ddiwedd ei hun
  • Os oes unrhyw amgylchiadau amheus neu hanes o drais
  • Marwolaethau allai fod yn ymwneud â gwaith yr unigolyn, er enghraifft os ydyn nhw wedi dod i gysylltiad ag asbestos 
  • Marwolaethau pobl sydd dan warchodaeth/yn y ddalfa sydd wedi'u cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, hyd yn oed os achosion naturiol oedd y rheswm.
  • Rhaid afiechydon anarferol gan gynnwys hepatitis a thwbercwlosis

 

Os ydych chi'n dal yn ansicr pam mae marwolaeth eich perthynas wedi'i hadrodd, ffoniwch ni a bydd Swyddog yn trafod gyda chi.

Fel arfer, meddygon a'r Heddlu sy'n rhoi gwybod.  Pan fydd adroddiad yn cyrraedd y swyddfa, mae'r Crwner yn ei gael.  Bydd e'n adolygu'r wybodaeth a phenderfynu beth ddylai gael ei wneud.  Mae'r adrannau nesaf yn trafod y posibiliadau gwahanol.