Y NEWYDDION DIWEDDARAF YNGHYLCH COVID-19
Gwestau Gwrandawiad Terfynol y Crwner
Dylech chi wirio'r dudalen yma'n rheolaidd i gael y newyddion diweddaraf. Bydd y Crwner yn parhau i agor a gohirio Cwestau yn ystod y cyfnod yma. Bydd Teuluoedd, y Rheiny â Diddordeb a'r Wasg yn cael gwybod yn ôl yr angen. Lle bynnag y bo modd, a gyda chytundeb Unigolion â Diddordeb, bydd y Crwner yn parhau i ddod â Chwestau sy'n defnyddio Dogfennau yn Unig i ben. Bydd rhestr y Cwestau yma ar y wefan. Dyma ofyn i chi wirio'r dudalen yma'n rheolaidd drwy'r ddolen yma: http://www.southwalescentralcoroner.co.uk/Cy/SeeUpcomingInquests/ListedInquestHearings.aspx
Yn unol â chanllawiau'r Llywodraeth mewn perthynas ag arferion gwaith, fydd dim hawl gyda ni groesawu unrhyw ymwelwyr i'r adeilad mwyach. Pan fydd gwrandawiad yn cael ei gynnal, bydd modd caniatáu mynediad i'r cyhoedd. Rhaid i bawb lynu wrth ganllawiau cadw pellter cymdeithasol.
Os oes angen i chi gysylltu â'r swyddfa, ffoniwch ni ar 01443 281100 neu e-bostio Crwner.Gweinyddu@rctcbc.gov.uk Nodwch y bydd llinellau ffôn ar agor bob dydd rhwng 9am ac 1pm am y tro.
Bydd Swyddfa'r Crwner yn ymdrechu i ateb pob ymholiad mewn da bryd ond bydd yn gweithredu gyda llawer llai o staff.
Rydyn ni'n gwerthfawrogi eich amynedd chi yn ystod y cyfnod ansicr yma.
Llys Crwner Ychwanegol Dros Dro
Mae Gwasanaeth Crwner Ardal Canol De Cymru wedi sicrhau Ystafell Llys dros dro ym Merthyr Tudful er mwyn ailgydio mewn nifer fawr o Gwestau a gafodd eu gohirio o ganlyniad i ymlediad feirws COVID-19.
Bydd Swyddfa'r Crwner yn rhoi gwybod i deuluoedd a phobl eraill dan sylw a fydd y Cwest y maen nhw'n mynd iddo'n cael ei gynnal yn yr Ystafell Llys ym Merthyr Tudful. Bydd modd bod yn bresennol ar Microsoft TEAMS hefyd.
Sylwch fod Ystafelloedd Llys y Crwner Pontypridd yn parhau i weithredu a bydd y swyddfa'n rhoi gwybod i chi pa leoliad y bydd angen i chi fynd iddo.
Yn y ddolen isod fe welwch restr sy'n rhoi manylion am bob cwest a lleoliad
Mae Llys Crwner Merthyr Tudful wedi'i leoli yma:
Uned 5
Parc Busnes Triongl
Pentre-bach
Merthyr Tudful
CF48 4TQ
Mae'r map sydd wedi'i atodi yn darparu manylion am y lleoliad.