Swyddfa Crwner Canol De Cymru
Staff Cymorth y Swyddfa
Mae gan y Crwner garfan o staff cymorth yn ei swyddfa ym Mhontypridd. Bydd y garfan yma'n rhoi cymorth i'r Crwner ynglŷn â pharatoi ffurflenni a gwaith papur, trefnu ymchwiliadau, a darparu copïau neu adroddiadau, ac ati. Dyma'r garfan y byddwch chi'n siarad â hi pan fyddwch chi'n cysylltu â'r swyddfa (gweler isod am fanylion cyswllt).
Pwy yw pwy yn Ardal Crwner Canol De Cymru
Gan fod hyn yn awdurdodaeth arbennig o brysur, sy'n gwasanaethu ardal ddaearyddol fawr, mae Uwch Grwner a Chrwner Ardal gyda ni i ddarparu gwasanaeth parhaus. Mae hefyd garfan o Grwneriaid Cynorthwyol ar gyfer cyfnodau o absenoldeb.
Uwch Grwner Dros Dro Ei Mawrhydi: Mr Graeme Hughes
Crwner Ardal Ei Mawrhydi :Mrs Patricia Morgan
Crwneriaid Cynorthwyol: Dr Sarah-Jane Richards, Ms Rachel Knight, Mr David Regan, Mrs Gaynor Kynaston, Ms Kerrie Burge, Mr Andrew Morse a Mr Gavin Knox