Gweithdrefn Cwynion

Nod Gwasanaeth y Crwner yw darparu gwasanaeth effeithlon a chydymdeimladol i'r rheiny sydd mewn profedigaeth a'r holl randdeiliaid perthnasol.

Mae sawl rhanddeiliad (E.e Yr Heddlu, Ysbytai, Meddygon Teulu, Cofrestrwyr, Patholegwyr, Archwilwyr Meddygol) yn cyfrannu i'r gwasanaeth y mae'r Crwner yn dibynnu arnyn nhw sydd y tu hwnt i'w rheolaeth ar rai adegau.

Mewn achos lle nad yw ein gwasanaeth yn cwrdd â'r safonau disgwyliedig, rydyn ni'n ceisio mynd i'r afael â'ch cwyn mewn modd cwrtais a chyn pen amserlen resymol.

Rhaid i amseriad yr ymateb fod yn gytbwys â baich gwaith sylweddol a chymhleth Gwasanaeth y Crwner, ynghyd â mewnbwn rhanddeiliaid eraill o bosibl.

O ganlyniad, rydyn ni'n gofyn am eich amynedd a'ch dealltwriaeth wrth i ni fynd i'r afael â'ch cwyn chi.

Bydd llwybr eich cwyn yn dibynnu ar natur eich cwyn.

Mae canllaw wedi'i gynnwys isod sy'n nodi i ble/at bwy y dylid cyfeirio eich cwyn.

Herio Cwest neu Benderfyniad y Crwner

Herio penderfyniad cyfreithiol Crwner.

e.e.

  • Mewn perthynas â phenderfyniad Crwner i beidio ag ymchwilio amgylchiadau marwolaeth sydd wedi'i gyfeirio atyn nhw,
  • Cyfeirio Archwiliad Post Mortem
  • neu ddilyn canlyniad Cwest

yna efallai bydd y dyfyniad canlynol gan Ganllaw'r Weinyddiaeth Gyfiawnder mewn perthynas â Gwasanaeth y Crwner o gymorth i chi:-

Efallai byddwch chi'n herio penderfyniad crwner neu ganlyniad cwest.

Os ydych chi'n ystyried gwneud hyn, dylech chi geisio cyngor gan gyfreithiwr gydag arbenigedd yn y maes cyfreithiol yma. Efallai bydd sefydliadau cymorth profedigaeth yn gallu cynnig cymorth hefyd.

Os ydych chi'n penderfynu bwrw ymlaen, bydd angen i chi anfon cais at yr Uchel Lys ar gyfer adolygiad barnwrol mewn perthynas â phenderfyniad neu ganlyniad y crwner.

Dylech chi wneud hyn cyn gynted â phosibl a chyn pen tri mis o ddiwedd yr ymchwiliad/y penderfyniad rydych chi'n dymuno ei herio.

Mae grym ar wahân gan y Twrnai Cyffredinol, neu rywun sydd wedi derbyn caniatâd y Twrnai Cyffredinol i ymgeisio i'r Uchel Lys er mwyn cynnal ymchwiliad os nad yw'r crwner wedi gwneud hynny; neu gynnal ymchwiliad arall at ddibenion lles cyfiawnder (e.e. am fod tystiolaeth newydd wedi dod i'r amlwg).  Does dim dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau yma.

Ymddygiad y Crwner

Os ydych chi'n dymuno cwyno am ymddygiad personol Crwner

E.e. Os honnir bod Crwner wedi bod yn anghwrtais, neu'n sarhaus tuag atoch chi yna efallai bydd y dyfyniad canlynol o Ganllaw'r Weinyddiaeth Gyfiawnder mewn perthynas â Gwasanaeth y Crwner o gymorth i chi:-

Os nad oeddech chi'n fodlon ag ymddygiad personol  crwner, dylech chi ddechrau drwy dynnu sylw at hyn gyda'r crwner dan sylw.

Os nad yw'r crwner yn gallu mynd i'r afael â'ch cwyn mewn modd boddhaol, dylech chi gyflwyno cwyn i'r Swyddfa Ymchwiliadau Ymddygiad Cyfreithiol (JCIO) (oedd yn arfer cael ei adnabod fel Y Swyddfa Gwynion Gyfreithiol).

Byddai enghreifftiau o gamymddwyn personol yn cynnwys defnyddio iaith sarhaus, hiliol neu rywiaethol; neu oedi afresymol wrth gynnal cwest neu ymateb at ohebiaeth.

"Mae modd cyflwyno cwyn am ddim i'r JCIO drwy wefan y JCIO ar http://judicialconduct.judiciary.gov.uk/making-acomplaint.htm.

Ymddygiad Swyddog y Crwner

Mae Swyddogion y Crwner yn cael eu cyflogi gan Heddlu De Cymru a Heddlu Dyfed Powys.  Os ydych chi'n dymuno cyflwyno cwyn am ymddygiad Swyddog y Crwner, dylech chi gyflwyno eich cwyn i'r Awdurdod Lleol i ddechrau.

Bydd eich cwyn yna'n cael ei anfon yn ei flaen at yr Heddlu perthnasol. Byddan nhw yna yn ymateb i'ch cwyn chi.

Cwynion am safon y gwasanaeth gawsoch chi.

(Nodwch fod hyn yn wahanol i herio Penderfyniad Cyfreithiol Crwner - mae sut i fwrw ymlaen â her gyfreithiol o'r math yma wedi'i nodi uchod)

Os ydych chi'n dymuno cyflwyno cwyn am y modd wnaeth y crwner neu aelod o'u saff fynd i'r afael ag ymchwiliad (er enghraifft os ydych chi'n teimlo nad yw'r safonnau sydd wedi'u nodi yng Nghanllaw Gwasanaethau'r Crwner ar gyfer Pobl mewn Profedigaeth yn cael eu bodloni. Efallai bydd hyn yn ymwneud ag oedi o ran ymateb neu waith papur coll), i ddechrau, dylech chi anfon llythyr at y crwner gan anfon copi at Gyngor Rhondda Cynon Taf, am eu bod nhw'n ariannu'r gwasanaeth. 

Efallai byddwch chi'n dymuno cyflwyno cwyn yn uniongyrchol â'r Awdurdod Lleol.

Os ydych chi'n cwyno mewn perthynas â gohebiaeth gan ein swyddfa ni, unwaith yn rhagor dylech chi gyflwyno'ch cwyn yn uniongyrchol i'r Awdurdod Lleol drwy weithdrefn cwynion y Cyngor. Sylwadau, Canmoliaeth a Chwynion | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (rctcbc.gov.uk)

Os ydych chi'n parhau'n anfodlon yn dilyn eu hymateb, mae modd i chi gyflwyno cwyn i'r Ombwdsmon Llywodraeth Leol ar http://www.lgo.org.uk/making-a-complaint, neu drwy ffonio 30 0300 061 0614 neu 0845 602 1983. Fel arall, efallai yr hoffech chi gyflwyno cwyn ar bapur i'r: Ombwdsmon Llywodraeth Leol, PO Box 4771, Coventry, CV4 0EH. Mae modd i chi gyflwyno cwyn am ansawdd y gwasanaeth gan swyddfa crwner am ddim.

Mae hefyd modd i chi gwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: https://www.ombwdsmon.cymru/