2 Wish
Mae Gwasanaeth Crwner Canolog De Cymru yn gweithio'n agos gyda'r elusen 2 Wish. Yn ddiweddar, mae'r elusen wedi rhoi Ystafell Brofedigaeth i Wasanaeth y Crwner a bydd yn darparu cymorth mewn Cwestau pryd bynnag y bydd ei angen.
Isod, mae Rhian Mannings, Sylfaenydd a Phrif Weithredwr yr elusen yn esbonio nodau'r elusen:
Cafodd 2 Wish ei sefydlu yn 2012 i gefnogi rhieni, brodyr a chwiorydd ac aelodau eraill o'r teulu wedi'u heffeithio gan farwolaeth sydyn ac annisgwyl plentyn neu oedolyn ifanc 25 oed ac iau. Pan fydd teulu'n colli plentyn neu oedolyn ifanc, mae'n chwalu byd pawb a oedd yn adnabod a charu'r unigolyn yna. Mae'n hanfodol bod cefnogaeth ar gael pan fo angen. Mae'n bwysig bod teuluoedd yn gwybod eu bod nhw ddim ar eu pennau eu hunain a bod y teimladau maen nhw'n eu profi yn aml yn normal.
Nodau 2 Wish yw codi arian i wella gwasanaethau profedigaeth yng Nghymru. Mae'r pwyslais ar gynnig cymorth ar ôl profedigaeth i rieni sydd wedi colli plentyn yn sydyn a dan amgylchiadau dirdynnol.
A ninnau'n elusen, ein nod yw:
- Sicrhau bod gyda phob Adran Achosion Brys yng Nghymru ystafell brofedigaeth addas ar gyfer teuluoedd mewn profedigaeth
- Sicrhau bod blychau profedigaeth ar gael i deuluoedd ym mhob un o'r ysbytai yma
- Sicrhau bod cymorth ar gael ar unwaith i deuluoedd sydd wedi colli unigolyn ifanc yn sydyn
- Darparu gwasanaeth cwnsela proffesiynol ar gyfer teuluoedd sydd wedi colli unigolyn ifanc yn sydyn
- Rhoi cymorth i unigolion a oedd yn dyst i blentyn neu oedolyn ifanc yn marw'n sydyn ac mewn ffordd ddirdynnol
- Darparu cefnogaeth a hyfforddiant i staff
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan 2 Wish: https://www.2wish.org.uk/