Am faint bydd y gwrandawiad yn para?
Yn eich ffurflen wŷs, bydd dyddiad dod i ben bras ar gyfer eich gwasanaeth. Bydd y dyddiad yma'n seiliedig ar yr hyn rydyn ni'n ei wybod am yr achos eisoes. Allwn ni ddim rhagweld popeth a fydd yn digwydd pan fydd y dystiolaeth yn cael ei chlywed. Efallai bydd y cwêst ychydig yn fyrrach / hirach na'r disgwyl. Bydd angen i chi aros hyd nes iddo ddod i ben.
Gan amlaf, mae cyfnodau gwasanaeth yn para wythnos neu ddwy. Efallai bydd hynny'n cynnwys un cwêst hir neu sawl cwêst byr.
Ambell waith, rydyn ni'n gwybod ymlaen llaw y bydd cwêst cymhleth iawn yn para am sawl wythnos. Byddwn ni'n gweithio gyda rheithwyr yn ystod y broses ddethol fel ein bod ni'n dewis pobl sy'n gallu dod i ben â hyn.