Os oes problem
Cyn i'r gwrandawiad cwêst ddechrau
Os bydd problem yn codi - er enghraifft, os ydych chi'n sâl neu mae disgwyl i chi ofalu am berthynas yn annisgwyl - rhowch wybod i ni ar unwaith. Efallai bydd modd i ni'ch esgusodi chi neu ohirio eich gwasanaeth. Mae'n bwysig iawn nad ydych chi'n peidio â dod ar y diwrnod cyntaf, heb ddweud dim. Os bydd hyn yn digwydd, mae'n bosibl y bydd yr Heddlu yn dod â chi i'r llys.
Efallai y byddwn ni angen prawf o'ch rheswm dros ofyn am gael eich esgusodi, megis nodyn doctor neu lythyr gan eich cyflogwr.
Ar ôl i'r gwrandawiad cwêst ddechrau
Ar ôl i'r cwêst ddechrau, rhaid i'r holl reithwyr fod yn bresennol drwy gydol y gwrandawiad. Mae hyn er tegwch, ac i sicrhau bydd pawb yn clywed yr un dystiolaeth. Chewch chi ddim bod yn absennol am ddiwrnod oherwydd salwch neu resymau personol a dod yn ôl wedyn.
Os oes problem gyda chi fydd efallai yn eich atal rhag dod i'r llys, rhowch wybod i ni ar unwaith. Bydd disgwyl i chi wneud pob ymdrech i fod yn bresennol. Os ydych chi am gael eich esgusodi, bydd angen prawf ysgrifenedig arnon ni.
Y peth pwysig yw cadw mewn cysylltiad â ni bob amser fel ein bod ni'n gwybod beth sy'n digwydd ac y gallwn ni'ch cefnogi chi gymaint ag y bo modd.