Tystion meddygol

Mae'r dudalen yma ar gyfer meddygon a gweithwyr yn y byd meddygol sydd wedi trin claf yn ystod ei fywyd neu sydd wedi cynnal archwiliad post mortem.  Dylai meddygon sydd wedi cyflwyno adroddiad barn annibynnol edrych ar y dudalen ar gyfer tystion arbenigol. 

Presenoldeb tystion meddygol yn y cwest:

Os ydych chi wedi bod ynglŷn â gofal neu driniaeth claf sydd wedi marw, neu rydych chi wedi cynnal archwiliad post mortem, efallai bydd y Crwner yn gofyn i chi roi tystiolaeth ar lafar yn y gwrandawiad.

Byddwn ni'n fwy na thebyg yn cysylltu â chi'n uniongyrchol neu drwy adran gyfreithiol eich ysbyty i gadarnhau'ch bod chi ar gael.  Byddwn ni'n trefnu amser y gwrandawiad pan fyddwch chi ar gael i ddod, ac yn rhoi gwybod i chi trwy lythyr neu e-bost.

Pennu dyddiad ac amser ar gyfer y cwest:

O bryd i'w gilydd pan fyddwn ni'n trefnu gwrandawiad a fydd yn cynnwys llawer o dystion, fydd dim modd i ni drefnu amser a fydd yn gyfleus i bawb.  Byddwn ni'n disgwyl i chi ddod ar ddyddiad penodol, felly.  Byddwn ni'n rhoi digon o rybudd i chi os bydd rhaid gwneud hynny.  Yn achos rhai o'r gwrandawiadau mwy cymhleth, rydyn ni'n cyflwyno gwŷs i dystion.  Os byddwch chi'n cael gwŷs naill ai drwy'r post neu drwy wasanaeth personol, gofalwch eich bod chi'n llenwi'r bonyn ateb a'i anfon yn ôl i'r swyddfa.

Pwy all fod yn bresennol?:

Mae croeso i ymgynghorwyr ddod â meddygon iau i gael profiad proffesiynol os dymunant.  Efallai y bydd aelod o adran gyfreithiol eich Ymddiriedolaeth yn dymuno dod i'r cyfarfod gyda chi.

Sut i ddod o hyd i ni:

Wrth fynychu ar gyfer y gwrandawiad, mae'r dudalen hon yn dangos sut i ddod o hyd i ni.

Cyrraedd y cwest:

Pan fyddwch chi'n dod i'r gwrandawiad, mae'r dudalen yma'n nodi'r cyfarwyddiadau.  Mae croeso i feddygon ymgynghorol ddod â meddygon iau er mwyn iddyn nhw gael profiad proffesiynol.  Efallai bydd swyddog o adran
gyfreithiol eich Ymddiriedolaeth eisiau dod yn ogystal. 

Cael eich galw i stondin y tystion:

Cofiwch gyrraedd o leiaf 10 munud cyn i'r gwrandawiad gychwyn.

Sensitifrwydd yn y cwest:

Bydd y Crwner yn gofyn i chi gyflwyno crynodeb o'ch prif ganfyddiadau.  Cofiwch ei bod hi'n debygol y bydd teulu'r unigolyn sydd wedi marw yn bresennol, felly byddwch yn barod i esbonio pethau mewn termau cyffredinol.  Efallai bydd y teulu neu bobl eraill sydd â buddiant/diddordeb neu'u cynrychiolwyr cyfreithiol nhw eisiau gofyn cwestiynau i chi.  Os byddwch chi'n cael cwestiwn sydd y tu allan i'ch cylch gorchwyl o arbenigedd, mae pob croeso i chi ddweud hynny. 

Ymweliad cynefino

Os nad ydych chi wedi dod i Lys y Crwner o'r blaen, ond byddai'n dda gyda chi wylio gwrandawiad, ffoniwch y swyddfa, a byddwn ni'n trefnu ymweliad 'cyfarwyddo' ar eich cyfer chi.

Treuliau:

Byddwn ni'n eich ad-dalu chi am unrhyw gostau teithio rhesymol.  Fel arfer, fydd hynny ddim yn cynnwys teithiau tacsi, ond efallai bydd modd gwneud eithriad trwy drefniant ymlaen llaw.  Cadwch bob derbynneb.  Efallai y cewch chi hawlio ffi ar gyfer bob yn bresennol.  Mae cyfraddau safonol wedi'u pennu gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ôl hyd y cwest. Gweler y Ffurflen Hawlio i Dystion Meddygon a'r nodiadau canllaw ar y cefn.

Gallwch hefyd gael copïau o'r uchod gan y clerc llys pan fyddwch yn bresennol.