Y Cyfryngau

Bydd bron pob cwest yn cael ei chynnal mewn llys agored, ac mae hawl gan aelodau o'r wasg i ddod ac i roi hanes am y gwrandawiad. 

Y anaml iawn, bydd dau eithriad i hynny:

  1. Mae'r Crwner yn gwneud gorchymyn i gadw'r wasg a'r cyhoedd allan o'r llys tra bydd tystiolaeth yn cael ei rhoi a allai effeithio ar ddiogelwch y genedl, er enghraifft gwybodaeth benodol am dactegau milwrol neu'r Heddlu.
  2. Mae'r Crwner yn gwneud gorchymyn i atal rhyddhau gwybodaeth a allai arwain at adnabod plentyn dan oed sy'n fyw (hynny yw plentyn yr unigolyn sydd wedi marw, fel arfer).

Gofynnwn i holl aelodau'r wasg barchu dymuniadau teuluoedd yn eu galar, ac i barchu'u penderfynu ynghylch p'un ai ydyn nhw eisiau ateb cwestiynau neu wneud datganiad.

Fydd staff y llys ddim yn rhoi unrhyw wybodaeth am yr unigolyn sydd wedi marw, heblaw am gadarnhau bod cwest wedi'i hagor, a dyddiad ac amser y gwrandawiad.  Ar ôl y gwest, efallai bydd staff yn rhoi dyfarniad y cwest gan fod hyn yn fater o gofnod cyhoeddus, ond chaiff darnau eraill o wybodaeth mo'u rhyddhau.

Efallai bydd dyddiadur y llys ar-lein a'r rhestr o'r gwrandawiadau o bwys sydd ar ddod o ddefnydd.