Tystion arbenigol

Mae'r dudalen yma ar gyfer tystion sydd wedi cael cyfarwyddyd gan y Crwner i gyflwyno adroddiad barn annibynnol.  Dylai meddygon sydd wedi trin y claf yn ystod ei fywyd neu sydd fel arall wedi bod ynglŷn â'r achos ddarllen y dudalen ar gyfer tystion meddygol.

Diolch i chi am dderbyn cyfarwyddyd i gynorthwyo'r llys trwy fod yn dyst arbenigol.  Ar ôl i chi gyflwyno'ch adroddiad, efallai bydd y Crwner hefyd yn gofyn i chi ddod i'r gwrandawiad i roi tystiolaeth ar lafar.  Bydd un o'i swyddogion yn cysylltu â chi i gadarnhau pryd rydych chi ar gael a chytuno ar ddyddiad.

Sut i ddod o hyd i ni:

Gweld manylion sut i ddod o hyd i ni.

Treuliau:

Trowch i'r dudalen yma am wybodaeth ar gyrraedd y llys.  Byddwn ni'n eich ad-dalu chi am holl gostau teithio rhesymol, gan gynnwys tacsi o'r orsaf agosaf.  Os ydych chi'n teithio o bell ac eisiau hedfan neu aros mewn gwesty y noson cyn neu ar ôl y gwrandawiad, cysylltwch â'r swyddfa ymlaen llaw i gytuno ar hyn.  Bydd angen i chi gadw'r derbynebau i gyd. 

Cyflwyno eich canfyddiadau:

Bydd y Crwner yn gofyn i chi gyflwyno crynodeb o'ch prif ganfyddiadau.  Cofiwch ei bod hi'n debygol y bydd teulu'r unigolyn sydd wedi marw yn bresennol, felly byddwch yn barod i esbonio pethau mewn termau cyffredinol.  Efallai bydd y teulu neu bobl eraill sydd â buddiant/diddordeb neu'u cynrychiolwyr cyfreithiol nhw eisiau gofyn cwestiynau i chi.  Os byddwch chi'n cael cwestiwn sydd y tu allan i'ch cylch gorchwyl o arbenigedd, mae pob croeso i chi ddweud hynny.

Taliad:

Byddwch hi wedi cytuno ar eich ffi gyda'r Crwner pan dderbynioch chi'r cyfarwyddyd.  Bydd y llys yn talu'ch cyfraddau rhesymol yn ôl yr awr  ar gyfer eich presenoldeb, teithio ac amser paratoi.  Mae modd ichi gyflwyno'ch anfoneb eich hun ar gyfer treuliau teithio; os byddwch chi'n gwneud hyn, cofiwch ddangos eich cyfradd yn ôl yr awr/diwrnod a pha mor hir buoch chi yn y gwrandawiad.  Atodwch unrhyw dderbynebau perthnasol.