Faint bydd y broses yn ei chymryd?
Rydyn ni'n deall y byddai'r rhan fwyaf o deuluoedd yn hoffi i'r gwest ddod i ben cyn gynted ag y bo modd. Byddwn ni'n cynnal yr ymchwiliad mor gyflym ag sy'n bosibl, gan sicrhau'n bod ni'n drylwyr.
Bydd y rhan fwyaf o gwestau yn cael eu cwblhau rhwng 3 a 6 mis ar ôl dyddiad y farwolaeth, ond mae llawer ohonyn nhw'n dod i ben yn gynt.
Bydd achosion a marwolaethau cymhleth iawn a marwolaethau a ddigwyddodd yn y ddalfa yn cymryd mwy o amser i ymchwilio iddyn nhw. Yn y sefyllfaoedd yma, byddwn ni'n rhoi cyngor unigol i deuluoedd.