Pwy fydd yn y llys?

Mae cwestau'n cael eu cynnal mewn llys agored.  Mae hynny'n golygu bod croeso i unrhyw ffrindiau a theulu'r person sydd wedi marw i ddod.

Tystion meddygol ac anfeddygol:

Efallai bydd y Crwner yn gofyn i dystion eraill i ddod yn ogystal.  Bydd hyn yn wahanol i bob achos, ond efallai byddan nhw'n cynnwys meddygon, nyrsys, yr Heddlu, tystion a phobl berthnasol eraill.  Pe hoffech chi wybod pwy fydd yno yn dystion, byddai croeso i chi ffonio'r swyddfa i gadarnhau hynny unwaith bydd dyddiad wedi'i bennu.

Dod â rhywun i'ch cefnogi:

Hoffech chi ddod â rhywun i fod yn gefn i chi?  Pob croeso i chi wneud hynny.  Does dim rhaid iddo/iddi adnabod y person sydd wedi marw.  Fe all fod yn gyfaill, cynrychiolydd undeb, gweithiwr cymorth neu weinidog capel/eglwys.

Plant yn y cwest:

Mae'n amlwg nad yw cwêst yn lle addas i blant a phobl ifainc.  Efallai bydd y Crwner yn caniatáu i fabanod bach fod yn ystafell y llys.  Gwnewch drefniadau gofal eraill ar gyfer plant eraill dan 16 oed.  Chaiff plant ddim aros heb oedolyn yn ein hystafell aros.  Os bydd rhywun ifanc o dan 16 oed eisiau dod i gwêst rhywun agos, efallai bydd y Crwner yn rhoi sêl bendith.  Rhaid bod oedolyn cyfrifol yn gwmni iddo/iddi.

Wasg a'r cyfryngau yn y cwest:

Gan fod cwestau yn cael eu cynnal mewn llys agored, does dim hawl gyda ni i gau'r wasg na'r cyfryngau allan.  Fel rheol, fydd gohebwyr/newyddiadurwyr ddim yn bresennol.  Serch hynny, os bydd achos eich perthynas yn denu sylw'r cyfryngau, efallai mai da o beth fyddai penderfynu ymlaen llaw os ydych chi eisiau siarad â newyddiadurwyr.  Os byddwch chi'n penderfynu nad ydych chi eisiau gwneud hynny, bydd staff y Llys yn rhoi cymorth i chi adael heb ffwdan.  Yn anffodus, does dim hawl gyda ni i atal adroddiadau am y gwêst rhag cael eu cyhoeddi neu'u darlledu.

Gwrthdaro yn y cwest:

Os oes anghydfod rhyngoch chi a rhywun arall sy'n dod, rhowch wybod i ni cyn gynted ag y bo modd.  Mae gweithdrefn gyda ni i'ch cadw chi ar wahân ac yn ddiogel.