Gwybodaeth am ymchwiliadau

Beth yw 'ymchwiliad'?  Sut mae'n wahanol i gwest?

Mae 'ymchwiliad' yn ffordd newydd i Grwner drafod achos, heb yr angen am agor cwêst.  Daeth hyn yn sgîl cyflwyno diwygiadau i ddeddfwriaeth y Crwner ym mis Gorffennaf 2013.  Y nod yw edrych ar bob achos mewn ffordd gymesur – fe geisiwn ni gasglu tystiolaeth ddigonol er mwyn ateb cwestiynau a delio â phryderon sy'n gysylltiedig â phob achos; ddim gormod na rhy ychydig. 

Weithiau bydd Crwner yn cael gwybod am farwolaeth, ac yn fwy na thebyg, byddai'r unigolyn hwnnw wedi marw o ganlyniad i achosion naturiol.  Serch hynny, dyw'r post mortem cychwynnol ddim wedi canfod achos y farwolaeth, ac rydyn ni'n aros am ganlyniadau unrhyw waith â microsgop a neu/ddadansoddiad o'r gwaed.  Neu, hwyrach byddai rhai cwestiynau syml ynghylch y farwolaeth y mae angen eu hateb. 

Does dim rhaid i'r rhain fod yn gwestau llawn.  Byddai'n gosod gormod o bwysau diangen ar ysgwyddau'r teulu, yn ogystal â bod yn wastraff o adnoddau'r Crwner.  Serch hynny, mae dyletswydd ar y Crwner i bennu achos y farwolaeth, ac i fod yn fodlon mai achosion naturiol oedd hi.  Yn yr amgylchiadau yma, bydd e'n cychwyn ymchwiliad.  Bydd hyn yn fodd i ni ryddhau corff eich perthynas wrth i ni hel y dystiolaeth angenrheidiol at ei gilydd.

Beth fydd yn digwydd os caiff ymchwiliad ei gychwyn i farwolaeth fy mherthynas?

Bydd un o swyddogion y Crwner yn eich ffonio chi i esbonio canlyniad yr archwiliad post mortem, ac yn rhoi gwybod i chi fod ymchwiliad yn cael ei gynnal.

Bydd angen i rywun a oedd yn adnabod yr unigolyn sydd wedi marw yn dda i ddod i Swyddfa'r Crwner i adnabod y corff.  Ar ôl hyn, byddwn ni'n rhyddhau'r corff i'ch trefnwr angladd.

Fyddwch chi ddim yn cael cofrestru'r farwolaeth na chael tystysgrifau marwolaeth ar hynny o bryd.  Bydd Swyddfa'r Crwner yn rhoi gwaith papur i chi er mwyn i'r angladd fynd yn ei blaen.  Os bydd angen prawf o'r farwolaeth arnoch chi, bydd modd inni gyflwyno tystysgrifau marwolaeth dros dro.

Efallai y bydd hi'n cymryd rhwng 4 a 12 wythnos i gynnal yr ymchwiliad.  Bydd swyddog yn eich ffonio chi unwaith i ni gael y canlyniadau.  Yna, bydd un o ddau beth yn digwydd.  Os bydd cadarnhad roedd y farwolaeth o ganlyniad i achosion naturiol, byddwn ni'n cau'r achos.  Yna, bydd rhaid i chi gofrestru'r farwolaeth yn Swyddfa'r Cofrestrydd (y Gofrestrfa) a chael tystysgrifau marwolaeth.  Os bydd cwestiynau heb eu hateb o hyd, bydd y Crwner yn newid yr ymchwiliad i fod yn gwest.  Bydd gweddill yr adran yma'n rhoi gwybodaeth am weithdrefn y gwest.