Cwynion sy'n dal i gael sylw, neu achosion sifil neu droseddol sy'n cael eu cymryd

Cwynion sy'n dal i gael sylw

Yn ogystal â'r gwêst yn cael ei hagor, efallai'ch bod chi wedi gwneud cwyn swyddogol am faterion yn ymwneud â marwolaeth eich anwylyd.  Fel rheol, bydd y gŵyn mewn perthynas ag ysbyty, ond mae'r un yn berthnasol i unrhyw sefydliad.

Bydd y Crwner yn trin y gŵyn yn fater ar wahân i'r gwêst.  Does dim angen inni aros cyn i'r gŵyn gael ei datrys cyn bwrw ymlaen â'r gwrandawiad. 

Fe all hi fod o gymorth os byddwch chi'n anfon copïau o'ch gohebiaeth at y Crwner.  Mae'n rhoi darlun llawnach o'r cefndir ac yn gallu awgrymu cwestiynau iddo ofyn, os yn briodol.  Does dim rhaid i chi wneud hyn - eich penderfyniad chi yw e.

Achosion Sifil

Os ydych chi'n cychwyn hawliad sifil, yn dilyn damwain neu fod yn agored i asbestos, er enghraifft, bydd yr achos, fel arfer, yn aros nes bod y gwêst yn dod i ben.  Mae'r rhain yn brosesau annibynnol, ond efallai bydd canlyniad y gwêst yn dylanwadu ar yr achos sifil.  Os ydy cynrychiolwyr cyfreithiol yn ymdrin â'ch hawliad, caiff yr un cyfreithwyr gymryd rhan yn y gwest.  Byddwch chi eisiau siarad â nhw am hyn.

Achosion Troseddol

Os oes achosion troseddol yn cael eu cymryd yn erbyn rhywun neu bobl sydd, o bosibl, wedi achosi'r farwolaeth, y gwrthwyneb sy'n wir.  Fel rheol bydd y gwêst yn cael ei gohirio nes bydd yr achos troseddol yn dod i ben.  Mae hyn oherwydd bod angen i ganlyniad y gwêst fod yn gyson â dyfarniad y llysoedd troseddol. 

Os bydd rhywun wedi'i gael yn euog o lofruddiaeth, dynladdiad, neu achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus ar ôl achos llys, fel arfer fydd y Crwner ddim yn ailgydio yn y gwêst achos bod yr holl dystiolaeth wedi cael ei harchwilio'n barod mewn llys agored.

Os ydy rhywun yn cael ei gyhuddo ond mae'n cael yn ddiog yn y diwedd, efallai bydd eisiau cynnal gwrandawiad.  Weithiau bydd yr holl dystiolaeth wedi cael ei harchwilio i raddau digonol.  Brydiau eraill, nid felly mae hi, felly mae dyletswydd ar y Crwner i archwilio'r holl dystiolaeth.

Lle bu achos troseddol, mae'n rhaid i'r Crwner benderfynu ym mhob achos a oes angen cynnal cwêst. Fel arfer bydd yn ysgrifennu at deulu'r sawl sydd wedi marw ac yn gofyn am eu barn.

Os caiff yr achos ei gyfeirio at Wasanaeth Erlyn y Goron, a'r penderfyniad yw peidio â chyhuddo neb mewn cysylltiad â'r farwolaeth, neu os nad oes modd dod o hyd i rywun i gael ei gyhuddo, bydd cwêst yn cael ei chynnal.