Pa wybodaeth caf i gyn y gwrandawiad?

Polisi'r Crwner yw bod yn agored ac yn dryloyw gyda theuluoedd. I fynnu copïau o'r adroddiadau a datganiadau cyn y gwrandawiad, ysgrifennwch aton ni.  

Mae modd gwneud hynny trwy'r post neu mewn e-bost.  

Coroners Office
Courthouse Street
Pontypridd
CF37 1JW

Coroneradmin@rctcbc.gov.uk

 

Bydd y Crwner yn penderfynu p'un ai rhoi'r caniatâd i anfon copïau neu beidio. A siarad yn gyffredinol, caiff caniatâd ei roi yn y rhan fwyaf o achosion. "Datgeliad cyn y gwêst" ydy'r enw am y copïau o wybodaeth.

Fel arfer dim ond un set o ddatgeliad i bob teulu y byddwn ni'n ei hanfon, oni bai bod amgylchiadau arbennig iawn. Byddwn ni'n aros nes ein bod ni wedi cael y dogfennau i gyd cyn eu hanfon atoch chi, yn hytrach nag anfon pob adroddiad fesul un wrth iddo ddod i law.

Cofiwch bydd yr adroddiad, yn enwedig adroddiad yr archwiliad post mortem, yn cynnwys gwybodaeth feddygol a/neu ddisgrifiadau o anafiadau. Efallai bydd y rhain yn ddeunydd darllen annifyr, felly eich penderfyniad chi yw p'un ai gofyn am eu gweld. Fyddwn ni ddim fel arfer yn cynnwys lluniau/ffotograffau o'ch perthynas na'r man lle bu farw.   

Mae modd hefyd i chi ofyn am gopïau o ddatganiadau ar ôl i'r gwêst ddod i ben, ond bydd rhaid i chi dalu am hyn – dyna'r rheoliadau. Cysylltwch â Swyddfa'r Crwner am ragor o wybodaeth.