Dyfarniadau / Casgliadau

Pan fyddwn ni'n clywed am gwest yn y newyddion, fel arfer bydd sôn am 'ddyfarniad' sy'n cael ei roi mewn ychydig eiriau, megis 'damwain' neu 'achosion naturiol'.  A bod yn fanwl gywir yn dilyn rhai newidiadau i gyfraith Crwneriaid ym mis Gorffennaf 2013, dyw hyn ddim yn gywir.  Yn hytrach na dyfarnu, mae'r Crwner bellach yn gwneud datganiad 'canfod ffeithiau' am bwy oedd yr unigolyn a fu farw, pryd a ble roedd y farwolaeth a'r rheswm meddygol.

Y casgliad yw'r ateb i'r cwestiwn 'sut bu farw'r unigolyn'.  Ond weithiau bydd yr ymadroddion/labeli cwta rydyn ni'n gyfarwydd â nhw yn briodol, a bydd y Crwner yn defnyddio un ohonyn nhw.  Serch hynny, mae modd iddo wneud ei ymadrodd/label ei hun neu ysgrifennu naratif o ffeithiau'r achos.  Bydd e'n gwneud beth bynnag sy orau i sefyllfa unigryw eich perthynas.

Pan fydd rheithgor yn y cwêst, bydd y Crwner yn dod i benderfyniad am gasgliadau sy'n rhesymol yn ôl y gyfraith.  Fyddai'r Crwner ddim, er enghraifft, yn rhoi'r opsiwn i'r rheithgor o ddewis 'achosion naturiol' pe bai hynny'n anghywir.  Bydd y rheithgor, wedyn, yn dewis rhwng y casgliadau maen nhw wedi cael i'w dewis.  Y rheithgor sydd hefyd yn gwneud datganiad canfod ffeithiau.

Os oes cynrychiolwyr cyfreithiol yn bresennol yn y llys, bydd cyfle gyda nhw i fwrw sylwadau ar ba gasgliadau y dylai'r Crwner eu hystyried, yn eu barn nhw.