Rhoi organau
Mae'r Crwner yn cymeradwyo gwaith gwerthfawr Gwasanaeth Trawsblaniadau'r GIG, a bydd e'n hwyluso rhoi organau lle bynnag y bo'n bosibl. Serch hynny, mae rhaid iddo fe sicrhau na fydd hynny'n amharu ar ei ymchwiliadau.
Os caiff y Crwner wybod am farwolaeth, dim ond gyda'i ganiatâd e y caiff organau'u rhoi. Os nad oes angen archwiliad post mortem, fel arfer fydd dim problem o ran rhoi organau. Os bydd angen post mortem, bydd e'n ystyried pa organau, os o gwbl, y bydd modd eu rhoi yn ogystal â chael canlyniadau cywir.
Hyd yn oed os nad yw'n bosibl i roi organau mewnol, mae'n bosibl yn aml iawn i roi cornbilennau a meinweoedd cyswllt.