Beth fydd y Crwner yn ei wneud yn syth ar ôl i'ch perthynas farw

Rydyn ni'n deall bod delio â materion cyfreithiol yn dilyn marwolaeth yn beth heriol, hithau'n adeg anodd iawn i chi yn barod.  Byddwn ni'n gwneud popeth y gallwn ni i helpu.  Bydd y tudalennau yma'n esbonio'r cyfan a fydd yn digwydd rhwng adeg hysbysu'r Crwner am Farwolaeth eich perthynas a'r corff yn cael ei ryddhau ar gyfer yr angladd.

Pan gaiff y swyddfa wybod am farwolaeth, bydd y Crwner yn ystyried yr wybodaeth ac yn gwneud un o dri pheth:

  1. Rhoi caniatâd i'r meddyg i roi Tystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth, a pheidio â chymryd rhagor o gamau.
  2. Trefnu archwiliad post mortem.  Gan ddibynnu ar y canlyniadau, bydd y Crwner naill ai yn (a) dyfarnu bod y farwolaeth yn un naturiol ac yn cau'r achos; (b) cychwyn ymchwiliad, lle byddwn ni'n cael rhagor o wybodaeth oddi wrth feddygon a phobl eraill berthnasol; neu (c) agor cwêst, sy'n wrandawiad llys i ganfod y ffeithiau ynglŷn ag amgylchiadau'r farwolaeth. 
  3. Agor cwêst heb archwiliad post mortem.


Mae pob un o'r opsiynau yma'n cael eu hesbonio isod.

Rydyn ni'n deall bod llawer o deuluoedd yn poeni am y broses, yn enwedig a ydy hi'n golygu gohirio'r angladd.  Byddwn ni'n ceisio cwblhau ymholiadau'r Crwner cyn gynted ag y bo modd er mwyn cadw unrhyw oedi i'r lleiaf posibl.  Mae'r tudalennau'n cynnwys gwybodaeth am yr amserlenni y gallwch chi'u disgwyl, a beth i'w wneud o ran trefniadau angladd.

Bydd pob croeso ichi siarad â ni os oes cwestiynau gyda chi.  Mae modd ffonio Swyddogion y Crwner rhwng 8am a 4pm ar 01443 281100 neu drwy anfon e-bost i  Crwner.Gweinyddu@rhondda-cynon-taf.gov.uk.