Os oes angen archwiliad post mortem

Beth sy'n digwydd?

Pan gaiff y swyddfa adroddiad, bydd y Crwner yn ei gael i benderfynu'r cam nesaf.

Fel nodwyd cyn hyn, hwyrach bydd y Crwner yn fodlon mai achosion naturiol sydd wedi achosi'r farwolaeth, a fydd dim rhagor o weithredu.

Os bydd y Crwner yn penderfynu bod angen i ymchwilio ymhellach, efallai bydd e'n mynnu archwiliad post mortem.  Bydd hyn yn digwydd os:

  • ydy hi'n amlwg bod achos y farwolaeth yn annaturiol, e.e. ar ôl ymosodiad neu gwymp
  • ydy achos y farwolaeth o bosib yn annaturiol e.e. os ydy'n gysylltiedig â llawdriniaeth neu ddod i gysylltiad ag asbestos
  • ydy achos y farwolaeth yn anhysbys.  Hyd yn oed os ydy achos y farwolaeth yn debygol o fod yn naturiol, bydd eisiau canfod pa afiechyd neu gyflwr a oedd gan yr unigolyn.
  • ydy'r unigolyn wedi marw dan warchodaeth/yn y ddalfa neu, fel arall, yng ngofal y Wlad.

Ble bydd y post mortem yn cael ei gynnal?  Pwy fydd yn ei gynnal?

Mae sawl ysbyty yn Ardal Canol De Cymru lle mae archwiliadau post mortem yn cael eu cynnal ar ran y Crwner. Dyma nhw:

  • Ysbyty Brenhinol Amwythig
  • Ysbyty'r Tywysog Siarl
  • Ysbyty Brenhinol Morgannwg
  • Ysbyty Tywysoges Cymru
  • Ysbyty Athrofaol Cymru

Y Crwner fydd yn penderfynu ble bydd yr archwiliad yn cael ei gynnal, ond byddwn ni'n rhoi gwybod i chi am y dyddiad a ble.  Mynnwch air ag un o Swyddogion y Crwner am fanylion.

Bydd Patholegydd Ymgynghorydd, neu feddyg graddfa ganol dan oruchwyliaeth Ymgynghorydd, ynghyd â chymorth technegwyr, yn cynnal yr archwiliadau post mortem i gyd yn yr ardal yma. 

Fe ddylen ni'ch hysbysu chi fod hawl gan berthnasau i gael cynrychiolydd yn yr archwiliad post mortem, yn unol â'r gyfraith.  Rhaid i'r cynrychiolydd fod yn feddyg wedi'i gymhwyso.  Ond braidd o gwbl mae hyn yn digwydd, a siarad yn gyffredinol.

Archwiliadau post mortem arbenigol

Os oes amgylchiadau amheus, efallai bydd y Crwner yn ystyried post mortem fforensig.  Mae hwn yn archwiliad mwy manwl wedi'i gynnal gan Batholegydd sydd wedi'i hyfforddi'n benodol.  Fel arfer yn Ysbyty Athrofaol Cymru fydd y rhain yn cael eu cynnal. 

O bryd i'w gilydd, efallai bydd y Crwner yn troi at Batholegydd sy'n arbenigo mewn organ benodol, megis yr ymennydd neu'r galon, i gynnal yr archwiliad post mortem.  Efallai byddwn ni'n trosglwyddo'r corff i ysbyty lleol arall i wneud hyn.  Os bydd y Crwner wedi gofyn am archwiliad post mortem arbenigol ar gyfer eich perthynas, byddwn ni'n rhoi gwybod i chi, ac yn esbonio'r rheswm.

Beth sy'n digwydd pan fydd y canlyniadau'n dod yn ôl?
Ar ôl cynnal yr archwiliad post mortem, bydd y Patholegydd yn rhoi adroddiad i'r Crwner ynglŷn ag achosion y farwolaeth.  Bydd y Crwner yn ystyried yr wybodaeth ac yn gwneud un o ddau beth:

  1. Os bydd yr archwiliad yn dangos bod yr unigolyn wedi marw o ganlyniad i achosion naturiol, bydd y Crwner yn cyflwyno'r gwaith papur er mwyn bwrw ymlaen â chofrestru'r farwolaeth, a fydd dim gweithredu pellach.
  2. Os bydd yr archwiliad post mortem yn dangos bod achos y farwolaeth yn annaturiol, neu os nad oedd modd pennu achos y farwolaeth ar ddiwedd yr archwiliad, bydd y Crwner yn cychwyn ymchwiliad neu'n agor cwêst.  Ymchwiliad yw hwn, ac efallai bydd gwrandawiad llys yn ei dillyn er mwyn canfod y ffeithiau ynglŷn ag amgylchiadau'r farwolaeth. 

Faint bydd hyn yn cymryd?

Mae'n cymryd tua phum diwrnod gwaith rhwng mynnu archwiliad post mortem a derbyn y canlyniadau.  Mae'n bosibl y bydd canlyniadau archwiliadau arbenigol yn cymryd rhagor o amser.

Sut byddwn ni'n rhoi gwybod i chi?

Bydd ein swyddfa yn ffonio'r berthynas agosaf ddwywaith - un i gadarnhau bod archwiliad post mortem wedi'i alw, a'r llall – rhai dyddiau wedyn – i esbonio'r canlyniadau a beth fydd yn digwydd nesaf.  Fyddwn ni ddim yn tarfu ar deuluoedd rhwng yr adegau hynny oni bai bod angen gwneud hynny, ond mae croeso iddyn nhw ffonio'r swyddfa gydag unrhyw gwestiynau.

Os nad oes modd inni olrhain perthnasau neu gysylltu â nhw ar ôl gwneud cryn ymdrech, efallai bydd angen inni drefnu archwiliad post mortem heb roi gwybod iddyn nhw. 

A fydd modd o hyd i weld y corff/cael arch agored?

Mae'r technegwyr patholeg yn ofalus iawn i sicrhau na fydd y post mortem yn effeithio ar olwg eich perthynas.  Pan fydd y corff wedi'i wisgo ac yn gorwedd yn y capel gorffwys, fydd dim modd gweld bod archwiliad post mortem wedi'i gynnal.  Bydd teuluoedd sy'n golchi a gwisgo'r corff yn gweld rhai pwythau llawfeddygol.  Bydd modd i'ch trefnydd angladdau roi cyngor i chi ynglŷn â'ch sefyllfa bersonol.