Os nad yw'r Crwner yn agor cwêst ar ôl yr archwiliad post mortem
Os ydy canlyniadau'r archwiliad yn awgrymu achos naturiol i'r farwolaeth, a does dim rheswm arall i agor cwêst (megis yr unigolyn yn marw dan warchodaeth/yn y ddalfa), bydd y Crwner yn dod â'i ymchwiliadau i ben bryd hwnnw.
Byddwn ni'n anfon y gwaith papur i Swyddfa'r Cofrestrydd i roi gwybod iddo am ganfyddiadau'r Patholegydd. Pan fyddwn ni'n eich ffonio chi i esbonio achos y farwolaeth, byddwn ni'n dweud y cewch chi, nawr, gofrestru'r farwolaeth.
Bydd angen i chi wybod pwy yw'ch trefnydd angladdau, ac a ydych chi'n claddu neu'n amlosgi. Mae rhaid cael hyn er mwyn rhyddhau corff eich perthynas i ofal y Trefnydd Angladdau sydd wedi'i enwi. Bydd y gwaith papur yn wahanol ar gyfer claddu neu amlosgi. Fyddwn ni ddim yn gallu rhyddhau'r corff nes ein bod ni wedi cael yr wybodaeth yma. Croeso ichi gymryd cwpl o ddyddiau i ddod i benderfyniad.