Cadw meinweoedd
Efallai bydd angen i'r Patholegydd gymryd samplau o gorff eich perthynas ar gyfer rhagor o brofion. Yn anffodus, rhaid i hynny gael ei wneud hyd yn oed pe byddai'n well gyda chi fod hyn ddim yn digwydd – yn ôl y gyfraith, mae dyletswydd ar y Patholegydd i'w cymryd os ydy o'r farn y byddan nhw'n ei helpu i ddod i benderfyniad ynglŷn ag achos marwolaeth.
Mae'r broses yn debyg iawn i gael biopsi mewn bywyd - mae'r samplau o tua maint a thrwch ewin bach. Nid organau cyfan a fydd yn cael eu cymryd na meintiau sylweddol hyd yn oed. Bydd y Patholegydd yn edrych arnyn nhw o dan y microsgop i gael rhagor o wybodaeth am achos y farwolaeth.
Efallai bydd y Patholegydd hefyd yn cymryd samplau bach (ychydig fililitrau) o waed a/neu droeth er mwyn cadarnhau lefelau o gyffuriau, meddyginiaethau neu rai cemegion corff naturiol.
Bydd y broses brofi yn cymryd rhwng un a chwe wythnos, gan ddibynnu ar ba fath o ddadansoddi sydd ei angen. Mae hyn yn golygu nad yw hi fel arfer yn bosibl i roi'r samplau'n ôl cyn yr angladd. Mae samplau o hylifau fel arfer yn cael eu dinistrio ar ôl cynnal profion.
Mae Deddf Meinweoedd Dynol 2004 yn pennu rheoliadau llym ynglŷn â sut mae rhaid inni drin y samplau meinwe dynol. Pan fyddwn ni'n rhoi canlyniad yr artchwiliad post-mortem i chi, byddwn ni'n rhoi gwybod i chi a ydy samplau wedi'u cymryd. Yna, bydd 4 opsiwn gyda chi o ran sut mae'u trin nhw:
- A. Dychwelyd y samplau i gorff yr ymadawedig cyn claddu neu amlosgi, hyd yn oed os yw hyn yn gohirio'r angladd.
- B Caiff samplau eu gwaredu mewn modd cyfreithlon gan yr ysbyty.
- C. Rhoi'r samplau yn ôl i'r trefnydd angladdau.
- D. Rhoi'r samplau i'w defnyddio gan y patholegydd ar gyfer ymchwil meddygol, addysgu neu ddibenion eraill, cyhyd â bod y patholegydd yn ei ystyried yn briodol, ac ar ôl hynny bydd yn cael ei waredu mewn modd cyfreithlon.
Does dim eisiau ichi benderfynu wrth fod ni ar y ffôn gyda chi. Meddyliwch am y peth, a rhoi galwad yn ôl i ni. Serch hynny, bydd angen penderfyniad oddi wrthoch chi cyn ini allu rhyddhau corff eich perthynas ar gyfer yr angladd.
Yn anaml iawn, bydd angen i'r Patholegydd dynnu organ gyfan at ddibenion dadansoddi. Os bydd hyn yn digwydd, bydd Swyddog y Crwner yn cwrdd â chi i egluro'r sefyllfa. Yna, bydd gennych chi'r un 4 opsiwn ar gyfer cael gwared â'r organ.