Os bydd y Crwner yn agor cwêst heb archwiliad post mortem

Mewn ychydig achosion, bydd y Crwner yn penderfynu bod eisiau cwêst i edrych i mewn i amgylchiadau'r farwolaeth, ond does dim eisiau archwiliad post mortem.

Yn amlach na pheidio, bydd hyn yn digwydd pan mae rhywun oedrannus yn cwympo ac yn dal niwmonia yn nes ymlaen achos nad ydy e/hi'n gallu symud o gwmpas a chlirio'i frest/brest.  Yn dechnegol, achos annaturiol o farwolaeth yw hyn achos mai'r cwymp oedd yr achos sylfaenol.  Felly, rhaid agor cwêst, yn unol â'r gyfraith.  Serch hynny, mae'n amlwg iawn yr hyn a ddigwyddodd o safbwynt meddygol, a fydd dim budd yn deillio o gynnal archwiliad post mortem.

Yn yr achosion yma, bydd y Crwner yn agor cwêst a bydd angen adnabod y corff yn ffurfiol a chyflwyno tystysgrifau marwolaeth dros dro.

Oherwydd nad oes angen i ni dreulio amser i gynnal archwiliad post mortem, bydd modd i ni ryddhau'r corff ar gyfer y trefniadau angladd o fewn 2-3 diwrnod, fel arfer.