Os nad oes angen i'r Crwner fod ynglŷn â'r achos
Beth sy'n digwydd?
Pan gaiff y swyddfa adroddiad, bydd y Crwner yn ei gael i benderfynu'r cam nesaf.
Mewn rhai achosion, bydd y Crwner yn adolygu'r adroddiad a'i fodloni bod yr unigolyn wedi marw o achosion naturiol. Does dim angen iddo ymchwilio ymhellach, a bydd e'n rhoi caniatad i feddyg yr ysbyty neu feddyg cyffredinol roi Tystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth. Byddwn ni'n gwneud y gwaith papur er mwyn rhoi gwybod i'r Cofrestrydd Genedigaethau a Marwolaethau.
Yna, caiff y teulu gofrestru'r farwolaeth yn y Gofrestrfa (Swyddfa Gofrestru), yn union yr un modd ag y bydden nhw pe bai'r Meddyg wedi rhoi'r Dystysgrif Feddygol yn y fan a'r lle. Unwaith i hyn gael ei wneud, bydd modd cynnal yr angladd.
Bydd Swyddfa Profedigaethau yn yr ysbyty neu'ch meddygfa yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi fod hyn wedi digwydd, a sut mae mynd ati i gofrestru'r farwolaeth.
Pa mor hir y bydd hynny'n ei gymryd?
Fel rheol byddwn ni'n cwblhau ein hymholiadau yn gyflym iawn yn yr achosion yma. Os caiff adroddiad am farwolaeth yn ystod oriau'r swyddfa, bydd y penderfyniad yn cael ei wneud yn yr un diwrnod, fel arfer. Weithiau, bydd hynny'n cymryd rhagor o amser os bydd eisiau inni gael gwybodaeth ychwanegol oddi wrth feddygon neu ddod o hyd i feddyg sy'n cael rhoi'r Dystysgrif Feddygol. Os digwydd hyn, fe rown ni wybod i chi.